


Un o uchafbwyntiau Eisteddfod Genedlaethol Abertawe eleni oedd perfformiad Theatr Genedlaethol Cymru o ’Wrth Aros Beckett’ - sioe a oedd yn cynnwys rhai o ddramau enwocaf Samuel Beckett. Fel yr oedd disgwyl, roedd pob perfformiad i theatr a oedd dan ei sang, gyda llawer wedi ei siomi wrth i’r drysau gau heb le iddynt.
Roedd y sioe yn cynnwys perfformaidau o ’Swn Traed’, ’Dod a Mynd’ a rhan o ’Wrth Aros Godot’, i gyd wedi eu cyfieithu gan Yr Athro Gwyn Thomas.
Roedd hefyd perfformiadau o waith gan Aled Jones Williams, WIl Sam a Gwenlyn Parry yn dilyn thema’r ddau ffrind a ddangoswyd yn gyntaf yn Vladimir a Estragon yn Wrth Aros Godot. Roedd yr rhain yn dangos yn glir sut mae Beckett wedi dylanwadu ar ddramodwyr Cymraeg, a’r theatr yng Nghymru yn gyffredinol.
Perfformiwyd y chwech darn yn arbennig o dda, yr unig gwyn yw y bu ’Swn Traed’ yn rhy hir, ac roedd hwn yn didynu rhywfaint o beth oedd fel arall yn gynhyrchiad gwych.
Roedd y darnau yn cynnwys y dynion yn well na’r rhai yn cynnwys y cymeriadau benywaidd, ond roedd hyn yn ymwneud a’r deialog a’r testun yn hytrach na perfformiadau’r cast. Rhaid rhoi clod arbennig i Carwyn Jones. Roedd ei egni a’i frwdfrydedd am bob cymeriad yn amlwg , ac roedd ef a Jonathan Nefydd yn gweithio mor dda gyda’i gilydd, ei amseru a’i symidiadau yn berffaith.
Os yw’r perfformiad yma yn flas o beth sydd i ddod, mi fydd eu cynhyrchiad o Ddiweddgan yn yr Hydref yn werth ei gweld.