Mae Golwg ar Gymru wedi cael ei sefydlu gan
Cynulleidfaoedd Cymru. Asiantaeth sydd wedi ymrwymo i gynyddu cyfranogiad i’r celfyddydau a’r sector diwylliannol yng Nghymru.
Rydym yn cynnig gwasanaethau marchnata i sefydliadau eang, o opera i orielau, i gwmniau theatr lleol ac amgueddfeydd.
Ein prif fwriad yw i gael gwell dealltwriaeth o’n cynulleidfaoedd, er mwyn gweithio i wella marchnata gyda’n partneriaid. Drwy hyn fe allwn annog gwell ymrwymiad gyda’r rhan yma a fywyd Cymreig.
Crewyd
Cynulleidfaoedd Cymru ym mis Ebrill 2005, pan ddaeth ‘Cardiff Arts Marketing’ (CAM), ‘Valleys Arts Marketing’ (VAM) a ‘Marketing the Arts Swansea Carmarthenshire’ (MASC) at ei gilydd i ffurfio un cwmni.
Bu’r dri asiantaeth yn gweithio yn y celfyddydau am dros 25 o flynyddoedd, yn ymchwilio a datblygu cynulleidfaoedd yn lleol. Mae’r profiad a ennillwyd dros y blynyddoed yma yn awr ar gael i rhagor o fudiadau drwy
Cynulleidfaoedd Cymru.