ACW
WAG

Cerdd โ€™09

Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Parc Cathays

Caerdydd

Map
Amseroedd:
Pris:
Dyddiad: 22 Maw 09 - 10 Ion 10

Fel rhan o Cerddoriaeth 09, bydd Ymateb yn gyfle i gerddorion i weithio gyda churaduron o amgueddfeydd genedlaethol Cymru i gynhyrchu ymateb cerddorol i gasgliadau’r genedl. Bydd rhai o’r artistiaid newydd gorau yng Nghymru yn cyflwyno traciau gwreiddiol a ysbrydolwyd gan amrywiaeth o arddangosfeydd, arddangosiadau a gwrthrychau.
Mae’r project diddorol hwn yn mynd i redeg drwy gydol y flwyddyn ac mae’n cynnig cyfle unigryw i ddathlu cerddoriaeth, treftadaeth a diwylliant ar y cyd yng Nghymru.

Uchafbwyntiau 2009.

Cerddoriaeth yr Anghydweld – Cyngerdd Billy Bragg.

Bydd Billy Bragg ym Mlaenafon yn lansio ei daith o amgylch Cymru i nodi chwarter canrif ers Streic y Glowyr 1984/85.

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru - 5 Mehefin. Tocynnau £17 (£16 consesiynau) / I archebu tocynnau, ffoniwch (01239) 621200.

Gwyddor Gerddorol.

Dysgwch am donfeddi a phatrymau sain, a’r ffordd rydym ni’n clywed cerddoriaeth. Mae’r arddangosfa’n archwiliad rhyngweithiol o sut mae sain yn cael ei chreu, ei throsglwyddo a’i derbyn.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe - 22 Mawrth i 31 Mai, Am ddim.

Pop Peth – Arddangosfa Cerddoriaeth Bop.

Bydd 6 Curadur Gwadd yn dewis gwrthrychau sy’n bwysig iddyn nhw o blith eu casgliad personol neu o gasgliad yr amgueddfa. Mae’n anelu at gyfleu’r berthynas unigryw rhwng person, cerddoriaeth, lle ac amser, ac adlewyrchu’r dylanwad mae diwylliant poblogaidd yn ei gael ar fywydau pob un ohonom ni.

2.00pm Dydd Sadwrn 16 Mai - Fflur Dafydd yn canu yn y Talwrn

2.30pm Dydd Sul 17 Mai - Gafin Morgan ac Antwn Owen Hicks yn chwarae’r pibgorn yn yr Eglwys

Sain Fagan: Amgueddfa Werin Cymru, Oriel 1 - 1 Awst i 10 Ionawr 2010, Am ddim.

 Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â’n gwefan www.amgueddfacymru.ac.uk/en/digwyddiadau/?site=stfagans neu cysylltwch ag Owain Rhys (owain.rhys@amgueddfacymru.ac.uk neu 029 20 573428) 

www.amgueddfacymru.ac.uk