


Parc Cathays
Caerdydd
Ym 1904 symudodd yr artist Cymreig, Gwen John (1876-1939), o Brydain i Baris - canolbwynt y byd celf ar y pryd – gan ddod yn fodel, ac yn gariad, i Auguste Rodin (1840-1917).
Mae Y Meistr a’r Model: Gwen John a Rodin yn archwilio’u carwriaeth angerddol a barodd am ddegawd, ac a luniodd bywyd a gwaith yr artist Cymreig.
Mae’r arddangosfa, yn gyfle gwych i ni ganolbwyntio ar y berthynas rhwng un o artistiaid benywaidd mwyaf arwyddocaol yr 20fed ganrif, Gwen John, a’r cerflunydd chwedlonol, Auguste Rodin.
Mae Y Meistr a’r Model yn cynnwys peintiadau olew a darluniau gan John a arddangosir ochr yn ochr â cherfluniau marmor ac efydd Rodin. Mae’r peintiadau olew’n cynnwys Cornel o Ystafell yr Artist, a bentiwyd yn ystod eu carwriaeth, yn ogystal ag enghreifftiau o’i phortreadau a lluniau bywyd llonydd.
Mae darluniau yn yr arddangosfa o’r math y byddai Gwen John wedi’u dangos i Rodin, yn cynnwys darluniau dymunol o’i chath annwyl mewn pensel a golch – arddull a ddysgodd gan ei chariad. Awgryma darlun arall o un o gerfluniau Rodin ei bod wedi darlunio tra’n modelu iddo, ac mae gwaith arall yn darlunio’i d? - darlun a wnaeth, efallai, wrth aros am ei chariad.
Ymysg y cerfluniau y mae ffigwr efydd Rodin Efa, yngh?d â dau gerflun marmor Y Ddaear a’r Lleuad a Y Cymylau, sy’n arddangos meistrolaeth Rodin wrth gyfuno ffigyrau i greu llinellau llyfn.
Ar gyngor ei brawd – yr artist tanllyd Augustus John - cyflwynodd Gwen John ei hun i Auguste Rodin, a oedd yn ffigwr nodedig yn y byd celf, a dechreuodd fodelu iddo. Fe’i dewiswyd gan Rodin fel model ar gyfer comisiwn a dderbyniodd ym 1903 gan Gymdeithas Rhyngwladol Cerflunwyr, Arlunwyr a Cherfwyr i gynllunio cofeb efydd i’r artist James McNeill Whistler. Gellir gweld pen efydd a gynhyrchwyd ar gyfer y prosiect hwn yn yr arddangosfa.
Daeth Rodin yn ganolbwynt i fywyd John, gan gynnig cymorth emosiynol, deallusol ac ariannol iddi. Trefnodd ei bywyd o’i amgylch ac ysgrifennodd dros 1,000 o lythyron ato, yn aml yn cyfeirio ato fel ‘Maitre’ (Meistr). Er fod Rodin yn edmygu rôl John fel model, a fod ganddo feddwl uchel o’i gwaith (fe’i disgrifiodd fel ‘artist prydferth’), datblygodd eu perthynas yn fwy na ‘meistr’ a ‘model’, a daethant yn gariadon.
Mae Y Meistr a’r Model yn rhan o ymgyrch yr Amgueddfa i wella’r ffordd y caiff casgliad celf Cymru ei harddangos. Mae’r Amgueddfa’n edrych ar sut y gellid arddangos mwy o wrthrychau, arddangos gweithiau celf mewn ffyrdd newydd, yn ogystal ag archwilio themâu ffres. Mae rhai o’r themâu hyn yn cael eu treialu yn yr arddangosfa hon yn ogystal â Gwrthryfel Celfyddydol: Celf Ffrengig ac Argraffiadaeth sydd hefyd ar agor i’r cyhoedd ar hyn o bryd.
Am rhagor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk