ACW
WAG

Budapest Gypsy Orchestra

Canolfan Taliesin

Prifysgol Abertawe

Parc Singleton

Abertawe

Map
Amseroedd: 19:30
Pris: £12/10
Dyddiad: 15 Mai 08

Yn arddull Band Sipsiwn Hwngaraidd dilys, mae’r grwp hwn yn perfformio darnau o drasiedi gerddorol fywiog a gwallgofrwydd czardas gydag angerdd a gallu cerddorol syfrdanol. Yn aml-offerynnwr dawnus, daw’r feiolinydd gwych Tcha Limberger o deulu enwog o gerddorion sipsiwn a chafodd ei fagu ar arddull jazz Sipsiwn Django Reinhart.

Fe’i denwyd i gerddoriaeth sipsiwn Hwngaraidd pan oedd yn ifanc, gan dreulio tair blynedd yn astudio ei gwreiddiau yn Budapest. Ac yntau ond yn 30 oed, mae’n teithio â’r gerddorfa fach ddethol hon o gerddorion Sipsiwn Budapest, ac nid oes band arall sy’n chwarae yn Budapest sy’n ennyn y fath barch. Ymuna Tcha, sef mab y Vivi Limberger enwog, â detholiad o gerddorion sipsiwn o Budapest ar eu taith gyntaf i’r DU, yn cyflwyno arddull gerddorol a elwir yn Magyar Nota - cerddoriaeth angerddol sydd mor gyfarwydd i’r Hwngariaid ag yw Tarantella i bobl Napoli a Fado i’r Portiwgeaid. Wedi ei chyfieithu’n llythrennol, ei hystyr yw Cân Hwngaraidd, ond mae wedi’i chysylltu’n bennaf â cherddoriaeth Caffes Budapest a boblogeiddiwyd gan linach enwog Lakatos.