ACW
WAG

Patrick Street

Theatr Mwldan

Aberteifi
Map
Amseroedd: 19:30
Pris: £15/14
Dyddiad: 15 Mai 08
Gellir dadlau mai Patrick Street, pedwarawd o bencampwyr cerddoriaeth Gwyddelig cyffrous, yw’r “supergroup” sydd ar frig cerddoriaeth draddodiadol Wyddelig, gyda etifeddiaeth gerddorol yn ymestyn yn ôl i The Bothy Band a Planxty. Mae’r band serol wedi swyno edmygwyr a beirniaid ar draws y byd am yr ugain mlynedd diwethaf gyda’r hyn wnaeth y Boston Globe alw unwaith, yn "rare combination of breathtaking virtuosity and the relaxed grace of masters, playing this ancient music at its wild and humble best."

Caiff John Carty a Kevin Burke eu hystyried yn ddau o ffidleriaid gorau eu cenhedlaeth, ac maent yn cyfuno yma i gyflwyno setiau o alawon gwefreiddiol. Mae brawddegu dychmygus John a thôn sidanaidd Kevin yn portreadu llanw a thrai rhythmig, y gerddoriaeth sionc o Sir Sligo, bu’n rhan o fagwraeth y ddau. Ochr yn ochr â Burke a Carty saif cyn aelod Planxty, Andy Irvine. Mae ei drefniadau unigryw, chwarae meistrolgar y bouzouki a’r mandolin, a’i lais gwahanredol yn ei gadw ar flaen cerddoriaeth draddodiadol o hyd. Ar y llwyfan gyda’i gilydd, mae Patrick Street yn cyflwyno gwir flas cerddoriaeth Wyddelig, a’i dod yn fyw, gan sicrhau bod eu perfformiadau yn achlysuron i’w disgwyl ac i’w mwynhau mas draw.