Budapest Gypsy Orchestra
Theatr Mwldan
Aberteifi Amseroedd: 19:30
Pris: £14/12
Dyddiad: 16 Mai 08
Credwch ni, dyma achlysur cerddorol o safon. Daw’r ffidler dawnus hwn, Tcha Limberger, o deulu enwog o gerddorion Sipsi. Mae’n chwarae nifer o offerynnau’n fedrus dros ben a chafodd ei fagu ar ddull jazz-Sipsi Django Reinhardt. Fe’i denwyd at gerddoriaeth sipsi Hwngari o oedran cynnar, a threuliodd tair blynedd yn astudio ei gwreiddiau ym Mwdapest. Nawr, yn 30 mlwydd oed, mae’n teithio gyda’r gerddorfa fechan hon o gerddorion Sipsi Bwdapest, ac nad oes yr un “Primas” yn chwarae ym Mwdapest sy’n ennyn y fath barch ag ef. Mewn gwir steil Band Sipsi Hwngaraidd, cyflwyna’r grwp byliau o drasiedi gerddorol esgynnol a gwallgofrwydd czardas gyda nwyd a meistrolaeth dechnegol sy’n rhyfeddol.