ACW
WAG

Billy Cobham and Asere

Theatr Mwldan

Aberteifi
Map
Amseroedd: 20:00
Pris: £15/14
Dyddiad: 06 Hyd 08

Mae’r prosiect hynod llwyddiannus Billy Cobham & Asere yn parhau – i gyd o ganlyniad i rôl cyd-gynhyrchu’r Mwldan o dan aden prosiect llwyddiannus y Celfyddydau tu allan i Gaerdydd!

Yn dathlu rhyddhau eu halbwm stiwdio cyntaf ac fel rhan o daith eang o Brydain, dyma gyfle arall i weld y ffenomena syfrdanol sef drymiwr gorau’r byd sydd ohoni, Billy Cobham, yn ailddarganfod ei wreiddiau Lladin gyda band ifanc deinamig gwych o Giwba, Asere.

Ganwyd Billy Cobham ym Mhanama a phan yn dair blwydd oed symudodd gyda’i rieni i Efrog Newydd. Erbyn hyn, mae’n un o enwogion y byd cerddorol, a chaiff ei ystyried yn un o’r drymwyr gorau erioed gyda edmygwyr ffyddlon a niferus led led y byd. Mae stori Billy Cobham mor faith nes iddo rychwantu degawdau a chynnwys cydweithrediadau gyda rhestr drwyadl o enwogion miwsig modern - Miles Davies, Stan Getz, George Benson, Roberta Flack, John McLaughlin, Jack Bruce, Tito Puente, Herbie Hancock. Mae dehongliad rhagorol Asere o draddodiadau cerddorol Ciwba wedi creu repertoire creadigol, arloesol, mewn dull sy’n talu teyrnged i’w rhagflaenwyr, ond sydd ag awch cyfoes cyffrous ei hun, ysgrifennu dyfeisgar a rhythm dwys. Rhowch Billy Cobham ac Asere ynghyd, a bydd gennych rywbeth arbennig iawn, perthynas gerddorol tanbaid wedi ei thanio gan barch, natur ddigymell a phleser. Mae’n brofiad bydd yn codi’ch ysbryd i’r entrychion yn llawn cynhesrwydd, i’r cerddorion ac i’r gynulleidfa, ac yn fythgofiadwy!