ACW
WAG

Eisteddfod yr Urdd Sir Conwy 08

Yr Urdd

Fferm Gloddaeth Isa

Fferm Gloddaeth Isa Lon Gloddaeth Penrhyn Bae Llandudno LL30 1RP
Map
Amseroedd:
Pris:
Dyddiad: 26-31 Mai 08
Mistar Urdd

Digwyddiad diwylliannol Cymreig, yn arddangos talentau ieuenctid Cymru gyfan. Cystadlu brwd yn y pafiliwn a gweithgareddau lu ar y maes.

Tocynnau ar werth (24 awr): 0845 257163
www.urdd.org/eisteddfod

Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru yw prif wyl gelfyddydol ieuenctid Ewrop, ac mae hi’n cael ei chynnal mewn man gwahanol yng Nghymru bob blwyddyn. Eleni mae hi’n dod i gaeau Fferm Gloddaeth Isaf ger Llandudno. Bydd y maes yn ferw o ddigwyddiadau i’r hen a’r ifanc gyda digon i’w weld ac i’w wneud heb sôn am raglen lawn o gystadlu brwd.

Gyda 15,000 o gystadleuwyr, 100,000 o ymwelwyr a miliwn o bobl yn gwylio ar y teledu, mae Eisteddfod yr Urdd yn ddigwyddiad o bwys i Gymru gyfan. Yn ogystal â’r cystadlaethau canu, llefaru, dawnsio ac offerynnol yn y pafiliwn, mae llwyth o weithgareddau ar y maes. O’ r ffair i’r arddangosfeydd celf, dylunio a thechnoleg, ac o’r wal ddringo i’r cyber-caff a’r sioeau cerdd, mae yma rywbeth at ddant pawb. Dewch yn llu i fwynhau’r wyl!