


19:30
Wed ei henwebu ar gyfer dwy Wobr Gwerin BBC yn 2008 a daliwr albwm gwerin y flwyddyn Mojo 2007, mae Lisa Knapp wedi ffrwydro’i ffordd i amlygrwydd ar sîn gwerin bywiog, gyda’i albwm cyntaf Wild And Undaunted yn 2007.
Mae ei ailwampio unigryw o ganeuon traddodiadol, gyda sblash o ysgrifennu gwreiddiol wedi argyhoeddi darllenwyr y cylchgrawn gwerin Roots, tra’n arwain yn ogystal at sesiynau byw ar Radio 1.
Daeth Lisa ar draws cerddoriaeth werin trwy gasgliad o recordiau o eiddo rhiant un o’i ffrindiau, ac o ganlyniad aeth ati i chwilio am ei ffidil nad oedd wedi gweld golau dydd ers gwersi cerddoriaeth yn yr ysgol, a daeth yn fynychwraig cyson yn sesiynau Gwyddelig yn Ne Llundain. Cyn hir daeth cynigion i chwarae sioeau mewn gwyliau, ond bu rhaid iddi gymryd toriad estynedig o gerddoriaeth o ganlyniad i salwch. Nawr mae wedi dychwelyd at y gerddoriaeth bu’n ysbrydoliaeth iddi. Ar ôl arbrofi helaeth, aeth i Ysgol Haf a arweiniwyd gan Chris Wood o’r sîn gwerin Seisnig, yn ogystal â chymryd meistr ddosbarth i’r llais gyda’r enwog Shirley Collins. Crisialodd hyn ei syniadau ynglyn â’i chyfeiriad cerddorol a sylwodd ar dueddiad cryfach tuag at gerddoriaeth werin Seisnig. Wedi ei hysbrydoli gan ei gwaith gyda’r cynhyrchwr roc dylanwadol, Youth, daeth ffrwd o ysgrifennu caneuon gwreiddiol, gyda rhyddhau ei halbwm cyntaf yn dilyn ym Mawrth 2007, sy’n cynnwys ail-drefniant gan Youth o’r gân draddodiadol Blacksmith.
Mae Mojo wedi galw Lisa Knapp ‘a major discovery’. Mae Word yn disgrifio Wild And Undaunted fel ‘the sexiest folk album of the year.’
www.lisaknapp.co.uk