ACW
WAG

Manylion y Digwyddiadau

Cerddoriaeth Digwyddiadau For De Orllewin Cymru


Pontardawe Arts Centre

Sierra Maestra

Mae Sierra Maestra wedi chwarae rhan arwyddocaol dros ben yn y ffrwydrad byd-eang diweddar mewn poblogrwydd cerddoriaeth o Giwba. Eu cyn arweinydd, Juan De Marcos González, oedd y dyn a greodd Glwb Cymdeithasol Buena Vista pan oedd yn parhau i fod gyda’r band.
Canolfan Celfyddydau Pontardawe (24 Maw 10)



Pontardawe Arts Centre

The Singing Bones

Coeden losg Aderyn hynod Sachaid o bryfed… Cymerwch adroddwr storïau cyfareddol, tri cherddor rhyfeddol a chymysgu melodi â stori i wneud noson o adloniant hudol.
Canolfan Celfyddydau Pontardawe (25 Maw 10)



Young Composer of Dyfed

Gweithdy Sacsoffon Cyfansoddwr Ifanc Dyfed

Gweithdy gyda Phedwarawd Sacsoffon Lunar i chwaraewyr sacsoffon ifanc
Rhos Y Gilwen, Sir Benf (15 Ebr 10)



Young Composer of Dyfed

Dosbarth Meistr Cyfansoddwr Ifanc Dyfed

Dosbarth Meistr i Gystadleuwyr Rownd Derfynol y Cyfansoddwr Ifanc
Rhos Y Gilwen, Sir Benf (16 Ebr 10)



Baka Baeyond

Baka Baeyond

Os nad ydych erioed wedi clywed am Baka Beyond, paratowch am brofiad gwych unigryw ac anarferol; os ydych yn adnabod Baka Beyond, byddwch yn ddi-os yn cytuno mai "Beyond The Forest" yw eu gwaith gorau hyd yn hyn. Recordiwyd lleisiau annaearol, cyfriniol yr albwm yng nghanol coedwig law Camerŵn, gyda phigmïaid Baka, grŵp ethnig o helwyr-gasglwyr, sydd wedi byw yn y goedwig ers miloedd o flynyddoedd.
Canolfan Celfyddydau Pontardawe (23 Ebr 10)



The Demona Barbers Roadshow

The Demona Barbers Roadshow

Mae’r band gwerin Seisnig pwerus, The Demon Barbers, yn ymuno â dawnswyr traddodiadol cyffrous i greu sbloet egnïol o gerddoriaeth a dawns. Yn ieuanc, yn gyfareddol, yn garismatig ac â bagiau o agwedd, mae The Demon Barbers yn cyfuno offerynnau acwstig traddodiadol cadarn a chaneuon â bywyd ychwanegol rhan rythm ragorol o dynn, gan wneud sŵn unigryw a chyfareddol â ffidil egnïol a lleisiau tanbaid, gwahaniaethol.
Canolfan Celfyddydau Pontardawe (30 Ebr 10)



The Bad Shepherds

The Bad Shepherds

Gan Aidrian Edmundson, Moongazer a Ella Edmundson.
Canolfan Celfyddydau Pontardawe (13 Mai 10)



Dreadzone

Dreadzone

Mae Dreadzone yn cyfuno technoleg â rhythmau dynol, gyda bas dwb yn gwrthdaro â churiadau dawns, gitâr byw ac electroneg afieithus, i gyd wedi’u huno gan rapio egnïol a lleisiau rege melys.
Canolfan Celfyddydau Pontardawe (14 Mai 10)