Carbon 12 - A Choral Symphony
Canolfan y Mileniwm Cymru
Plas Bute
Caerdydd
Amseroedd: Cerddorfa OCC
Perfformiadau’n cychwyn am 7.15pm
Sgyrsiau cyn perfformiadau am 6.15pm nos Wener 6 a nos Iau 12 Mehefin
Pris:
Dyddiad: 6-12 Meh 08
Arweinydd Carlo Rizzi
Unawdydd TBC
Cafodd y sgôr gerddorfaol a lleisiol sgleiniog hon gan Prokofiev ei chreu’n wreiddiol fel y gwaith ar gyfer y ffilm eithriadol boblogaidd gan Eisenstein ym 1938. Mae honno’n dilyn hanes Rwsia yn y 13edd ganrif, pan oedd y wlad wedi ei goresgyn gan ymosodwyr estron. Adroddir y stori gan uncymeriad, Alexander Nevsky, Tywysog Novgorod. Mae’r gwaith syfrdanol hwn yn sôn am adferiad ar ôl ymosodiadau gan y Mongoliaid a chaneuon am arwyr, am fyddinoedd ymosodol a marchogion Tewtonig. Mae’n orlawn o ganeuon gwladgarol sy’n cyrraedd uchafbwynt mewn brwydr fuddugoliaethus, derfynol.
Carbon 12 - Symffoni Gorawl
Cyfansoddwr Errollyn Wallen Libreto John Binias Dathlu hanes unigryw, tirwedd a phobl de Cymru mewn cerddoriaeth a chân. Mae Oratorio De Cymru yn dathlu creu De Cymru a’r cymoedd - o’u llunio’n ffisegol 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl i’w gosod ar ganol llwyfan diwydiannol y byd 100 yn ôl - ychydig leoedd yn y byd sydd wedi gweld cymaint o drawsnewid sylfaenol a chynnwrf. Drwy weithio gyda thraddodiadau cerddoriaeth a chân, sydd wedi eu hysgogi gan y dirwedd a’r hanes unigryw hwn, mae’r gyfansoddwraig Errollyn Wallen (a enillodd y Wobr Cyfansoddwyr Prydeinig/Gwrandawyr Radio 3 yn 2005) yn defnyddio côr meibion mawr, band pres a Chorws a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru i adrodd hanes De Cymru mewn ffordd fythgofiadwy ar gân