ACW
WAG

Manylion y Digwyddiadau

Comedi Digwyddiadau


Julian Clary - Lord of the Mince

Julian Clary - Lord of the Mince

Rydw i, Julian Clary, wedi rhoi’r un hwb i gamau bach genethig ag a roddodd Michael Flatley i ddawnsio Gwyddelig.

Ond a ddaeth tro ar fyd ar fflyrtio eofn yn y gymuned hoyw? Rhaid mi deithio o amgylch fy nheyrnas i gael asesu’r sefyllfa…

Ar adegau anodd fel hyn rwy’n teimlo y dylwn i fynd i roi cysur i ’mhobl ar hyd a lled y wlad. Yn ôl fy ffrind Damien, mae hi’n galed iawn ar ddynion yng Nghaerdydd. Dim ond gobeithio nad ydw i’n rhy hwyr.

Rydw i’n 50. Y cywilydd. Noson fach i griw o ffrindiau fydd hon – dathliad o’r pum mlynedd ar hugain rydw i wedi’u treulio dan y llifoleuadau llachar: sut cyrhaeddais i a pham rydw i’n gwrthod gadael. Dewch i ’ngweld i cyn iddyn nhw fy rhoi mewn cartref i hen grocs.


Yn Cynnwys Hiwmor Addas I Oedolion
New Theatre (14-14 Maw 10)



Chris Corcoran

Chris Corcoron

Mae Chris Corcoran yn foi doniol iawn.
Canolfan Mileniwm Cymru (14 Maw 10)



Jus’ Like That - A Night Out With Tommy Cooper

Jus’ Like That - A Night Out With Tommy Cooper

Teyrnged llawn hwyl i’r diweddar Tommy Cooper
New Theatre (15-15 Maw 10)



CLWB GOMEDI KILL FOR A SEAT

CLWB GOMEDI KILL FOR A SEAT

Mae’r tocynnau i gyd yn gwerthu am reswm: yn ein trydedd blwyddyn lwyddiannus o gomedi, rydym yn addo dal i sicrhau’r dalent orau i chi.
Clwyd Theatr Cymru (01 Ebr 10 - 06 Mai 10)



Punchline Comedy Nights

Punchline Comedy Nights

Mae’r brif act, Henning Wehn, wedi perfformio fel ’Llysgennad Comedi’r Almaen’ hunanhonedig ers 2003, gan chwarae ar stereoteip Prydeinwyr o’r Almaenwyr fel Natsïaid dihiwmor sydd ag obsesiwn am effeithlonrwydd.Yn rhinwedd ei act hynod ddigrif, mae wedi cael ei enwebu am Wobr Barry Gŵyl Gomedi Melbourne yn ogystal ag ennill cystadleuaeth Act Newydd y Flwyddyn Hackney Empire.
Canolfan Celfyddydau Pontardawe (14 Ebr 10)



Punchline Comedy Nights

Punchline Comedy Nights

Y brif act i’w chadarnhau.Wyneb cyfarwydd i’r cylch comedi yw’r act digrifwr cefnogi, Steve Harris. Ers dechrau ym 1998, mae wedi ennill Digrifwr Gogledd-orllewin Lloegr y Flwyddyn, yn ogystal â gwneud ffrindiau gyda Gwobrau Comedi Newydd y BBC a So You Think You’re Funny.
Canolfan Celfyddydau Pontardawe (12 Mai 10)



Spike Milligan’s Adolf Hitler: My Part in His Downfall

Spike Milligan’s Adolf Hitler: My Part in His Downfall

Daw atgofion rhyfel enwog Spike Milligan yn fyw ar y llwyfan
New Theatre (18-22 Mai 10)



Punchline Comedy Nights

Punchline Comedy Nights

Mae hiwmor unigryw’r dyn gwyllt, sy’n un o brif berfformwyr comedi Canada, Craig Campbell, yn cyfuno anecdotau hynod â storïau hallt am ryw, cyffuriau ac enwaedu. Fodd bynnag, fe’ch rhybuddir, mae ei ddull esmwyth a’i gynhesrwydd dilys yn cuddio gwir natur feiddgar ei ddeunydd. Wedi’i roi’n syml, mae’n ddyn doniol iawn.
Canolfan Celfyddydau Pontardawe (09 Meh 10)



Dad’s Army Marches On

Dad’s Army Marches On

Mae’r bois yn ôl! I ddathlu 70 mlynedd o’r Gwarchodlu Cartref, daw Dad’s Army yn ôl i’r llwyfan gydag addasiad newydd sbon o’r gyfres gomedi ragorol hon. Mae’r un tîm ag a roddodd fywyd i The Lost Episodes wedi estyn eu hiwnifform o gefn y cwpwrdd a rhoi sglein ar eu medalau i ddod â’r cymeriadau cyfarwydd hyn yn ôl i’r New Theatre. Mae’r cast gwych yn cynnwys Leslie Grantham, sy’n camu i esgidiau Preifat Walker.
New Theatre (13-17 Gor 10)