


Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Prifysgol Cymru
Aberystwyth
Ceredigion
Ganwyd Paul Peter Piech ym 1920 yn Brooklyn, Efrog Newydd a symudodd i Brydain ar ôl yr ail Ryfel Byd. Astudiodd wneuthuriad print yn Chelsea a gweithiodd yn y maes hysbysebu am 20 mlynedd cyn dychwelyd i Chelsea i ddysgu dylunio graffeg.
Ym 1959 sefydlodd Wasg lle bu’n gweithio ar lyfrau a phrintiau oedd yn archwilio ffyrdd newydd o gyfuno testun a delweddau, yn aml yn adlewyrchu ei deimladau cryf ynglyn â phasiffistiaeth a chydraddoldeb. Symudodd i Gymru ym 1986 a bu’n gweithio yno tan ei farwolaeth ym 1996.