


Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Prifysgol Cymru
Aberystwyth
Ceredigion
151st International Print Exhibition.
Dros gyfnod o 150 o flynyddoedd mae Arddangosfa Brintiau Ryngwladol y Gymdeithas Ffotograffiaeth Frenhinol wedi ennill enw da am arddangos yr enghreifftiau gorau o bob math o ffotograffau, gyda gwaith dyfeisgar, arloesol yn cael ei arddangos ochr yn ochr â gwaith traddodiadol.
Bob blwyddyn mae’r Gymdeithas yn gwahodd gwaith oddi wrth ffotograffwyr proffesiynol, myfyrwyr ac amaturiaid gydol y byd a dewisir y ceisiadau buddugol gan banel o ffotograffwyr blaenllaw o wahanol gefndir. Mae cymryd rhan yn yr arddangosfa hon wedi helpu llawer o ffotograffwyr brwdfrydig i lansio gyrfa ac ennill cydnabyddiaeth.
Image: Chris Charnock, APPS ’Exploited’ Gold Under 25 Award, 150th International Print Exhibition.