ACW
WAG

Canterbury Tales

Mappa MundiI/Theatr Mwldan

Theatr Mwldan

Aberteifi
Map
Amseroedd: 19:30
Pris: £12/10
Dyddiad: 3-4 Hyd 08

Yn agor yn y Mwldan cyn taith llawn o Brydain, Mae adfywiad newydd Mappa Mundi o’i sioe hynod boblogaidd yn cymryd gwaith clasurol Geoffrey Chaucer a’i lwyfannu fel adloniant dramatig a digri yn llawn ffraethineb a chyfaredd.

Ar eu pererindod flynyddol i Ganterbury, mae criw o werin Cymreig yn pasio’r amser yn perfformio rhai o straeon mwyaf apelgar Chaucer, yn llanw’r llwyfan gyda chymysgedd o gomedi bywiog, rhamant a delweddau deniadol. Mae’r sioe yn cynnwys rhai o straeon mwyaf hoffus Chaucer (gan gynnwys The Miller’s Tale, The Nun’s Priest’s Tale a The Wife of Bath’s Tale), ynghyd â sgôr hyfryd. Yn berffaith ar gyfer pawb sy’n mwynhau hiwmor bras a stori dda, mae Canterbury Tales yn adloniant swynol, sy’n symud yn gyflym ac sy’n siwr o’ch cyffroi!

Yn addas i gynulleidfaoedd dros 12 mlwydd oed.

Bydd noson bleserus ac ychydig yn ddrygionus o’ch blaen wrth i Mappa Mundi cymryd i’r ffordd gyda’r addasiad hwn o waith mwyaf adnabyddus llên ganoloesol.