Eddie Ladd - Scarface
Sherman Cymru
Ffordd Senghennydd
Caerdydd CF24 4YE
Amseroedd: 19:30
Pris: £12, £10 Dan 19: £8
Dyddiad:
10 Hyd 08
Epig am y nesa’ peth i ddim!
Teyrnged i glasur rwtsh (trash classic) 1983, gydag Eddie Ladd, perfformwraig Gymreig yn cymryd lle Al Pacino yn y brif ran.
Mae Tony Montana, prif gymeriad y ffilm, yn dianc i America o Cuba, yn gweithio’i ffordd i fyny yn isfyd Miami, yn saethu’r bos, yn priodi’r cariad (Michelle Pfeiffer) ac yn diweddu’r daith wyneb i waered yn ei bwll nofio’i hun.
Mae’r ffilm yn sinigaidd ac yn sgleiniog, ac yn rhoi glòs ddifyr ar imperialaidd diwylliannol - a’r sioe theatr yr un modd, ond bod y lleoliad yn symud o Miami i gartref y berfformwraig yng Ngorllewin Cymru.
Mae Eddie Ladd yn chwarae i gamera drwy gydol yr amser. Mae ei delwedd wedyn yn cael ei gloi ar gyfres o gefndiroedd, ac i drac sain gwych gan Tystion, ac yna’n cael ei yrru i sgrin o faint sinema.