ACW
WAG

Silver: Autumn

Diversions

Canolfan Mileniwm Cymru

Plas Bute

Caerdydd

Map
Amseroedd: 20:00
Pris: £10
Dyddiad: 19-20 Med 08
Diversions
Ymunwch yn y dathliad wrth i ddawnswyr nodedig Diversions berfformio sioe ddwbl ddisglair a grëwyd i nodi chwarter canrif ers sefydlu Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Yn llawn egni a chyffro, bydd y noson fendigedig hon o ddawns yn cynnwys gweithiau gan ddau goreograffwr rhyngwladol deinamig.

Bydd Diversions yn perfformio gwaith y coreograffwr ffasiynol Stephen Petronio, Prelude a Strange Attractors Rhan II sy’n cyfuno dawnsio apelgar, cerddoriaeth oddi wrth Placebo, cyfraniadau lleisiol gan David Bowie a dillad gan Tanya Sarne o Ghost.

Yn dilyn ei Practice Paradise hynod lwyddiannus bydd y coreograffwr Belgaidd Stijn Celis yn dod â’i ddawns nodweddiadol flaengar ddiweddaraf i’r llwyfan.

Wedi ei greu gan dîm Diversions, bydd yr adloniant swynol hwn yn cyfuno canu pigmïaidd, cerddoriaeth oddi wrth y chwedlonol James Brown ac ychydig o electro. Ydi wir, mae Stijn yn ei ôl!

Os y’ch chi wedi gweld Diversions o’r blaen rydych chi’n gwybod fod profiad amheuthun o’ch blaen. Os taw dyma’r tro cyntaf i chi weld y cwmni mae gwledd yn eich disgwyl!

85 munud



Yn ymweld â’r Ty Dawns am y tro cyntaf? Ewch i ymweld â www.diversionsdance.co.uk am ragor o gyfarwyddiadau ynteu medrwch gyfarfod â ni yng nghyntedd Canolfan Mileniwm Cymru.