Mae criw o actorion yn cwrdd mewn ystafell ymarfer i archwilio’r hyn a ddigwyddodd ym Merlin yn ystod dyrchafiad Hitler, ac yn ddiweddarach, wedi i Wal Berlin gael ei dymchwel.
Ymunwch yn y dathliad wrth i ddawnswyr nodedig Diversions berfformio sioe ddwbl ddisglair a grëwyd i nodi chwarter canrif ers sefydlu Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Mae cynhyrchiad arbennig Syr Peter Hall o An Ideal Husband gan Oscar Wilde yn dod i Gaerdydd, ar ôl ennill clod a bri ar lwyfannau’r West End a Broadway.