ACW
WAG

Manylion y Digwyddiadau

Events Digwyddiadau For De Orllewin Cymru

Tudalen (1/3)
1
2 3  

Oriel Myrddin Gallery

Hau a Medi

Crefft a Dylunio Cyfoes
Oriel Myrddin Gallery (27 Chw 10 - 03 Ebr 10)



Pontardawe Arts Centre

A Good Night Out in the Valleys

Beth yw’r stori fwyaf hynod o’r holl storïau sy’n ymwneud â’r Cymoedd? Ar ôl gwrando ar gannoedd ohonynt, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn troi’r goreuon yn noson hyfryd, feiddgar o adloniant, gan Siwan Morris (Skins) a Boyd Clack (High Hopes, Satellite City).
Canolfan Celfyddydau Pontardawe (18-19 Maw 10)



Storydays Festival

Storydays Festival

Digwyddiad hyd wythnos yw Storydays, gan ganiatáu i blant o bob oed ymgolli yng nghelfyddyd hudol adrodd storïau. Gyda chyfleoedd i wrando ar storïau, eu llunio a’u darlunio, dan arweiniad rhai o’r adroddwyr storïau gorau yn y wlad, dyma ddigwyddiad na ddylid ei golli.
Canolfan Celfyddydau Pontardawe (23-31 Maw 10)



Pontardawe Arts Centre

Sierra Maestra

Mae Sierra Maestra wedi chwarae rhan arwyddocaol dros ben yn y ffrwydrad byd-eang diweddar mewn poblogrwydd cerddoriaeth o Giwba. Eu cyn arweinydd, Juan De Marcos González, oedd y dyn a greodd Glwb Cymdeithasol Buena Vista pan oedd yn parhau i fod gyda’r band.
Canolfan Celfyddydau Pontardawe (24 Maw 10)



Pontardawe Arts Centre

The Singing Bones

Coeden losg Aderyn hynod Sachaid o bryfed… Cymerwch adroddwr storïau cyfareddol, tri cherddor rhyfeddol a chymysgu melodi â stori i wneud noson o adloniant hudol.
Canolfan Celfyddydau Pontardawe (25 Maw 10)



Beowulf

Beowulf

Dyma un o’r storïau hynaf yn yr iaith Saesneg, ac eto mae ganddi’r pŵer i godi’r blew ar gefn eich gwddf.
Canolfan Celfyddydau Pontardawe (31 Maw 10)



Across the Deep Blue Sea

Across the Deep Blue Sea

Bad mân, dyn bach ar goll a’r cefnfor anferth agored. Sut cyrhaeddodd yno, sut gall fynd adref a pham mae’r pysgod hynny’n cnoi ei ben ôl?
Canolfan Celfyddydau Pontardawe (08 Ebr 10)



Oriel Myrddin Gallery

Yr Un ar y Cyrion

Arddangosfa o waith dethol gan wyth artist cyfoes sydd un ai’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Mae’r arddangosfa ddifyr hon yn ymdrin â syniadau diddorol sy’n ymwneud â’r cysyniad ynghylch ‘yr un ar y cyrion’. Mae pob darn o waith yn cynnig golwg ar fod yn wahanol ac arwahanrwydd; mae rhai’n ymdrin yn benodol ac yn ingol â hunaniaeth yr un ar y cyrion, mae eraill yn cyfeirio at effaith emosiynol a chorfforol bod ar y cyrion. Mae rhai artistiaid yn cyflwyno’r posibilrwydd o fod yn gadarnhaol a hiwmor wrth ymdrin â’r maes anodd hwn.
Oriel Myrddin Gallery (10 Ebr 10 - 15 Mai 10)



Punchline Comedy Nights

Punchline Comedy Nights

Mae’r brif act, Henning Wehn, wedi perfformio fel ’Llysgennad Comedi’r Almaen’ hunanhonedig ers 2003, gan chwarae ar stereoteip Prydeinwyr o’r Almaenwyr fel Natsïaid dihiwmor sydd ag obsesiwn am effeithlonrwydd.Yn rhinwedd ei act hynod ddigrif, mae wedi cael ei enwebu am Wobr Barry Gŵyl Gomedi Melbourne yn ogystal ag ennill cystadleuaeth Act Newydd y Flwyddyn Hackney Empire.
Canolfan Celfyddydau Pontardawe (14 Ebr 10)



Young Composer of Dyfed

Gweithdy Sacsoffon Cyfansoddwr Ifanc Dyfed

Gweithdy gyda Phedwarawd Sacsoffon Lunar i chwaraewyr sacsoffon ifanc
Rhos Y Gilwen, Sir Benf (15 Ebr 10)



Tudalen (1/3)
1
2 3