ACW
WAG

The Importance of Being Earnest

A MAPPA MUNDI / THEATR MWLDAN / CREU CYMRU CO-PRODUCTION

Canolfan Taliesin

Prifysgol Abertawe

Parc Singleton

Abertawe

Map
Amseroedd: 19:30
Pris: £11 Gostyngiadau: £9 ysgolion: £7.50
Dyddiad: 8-9 Mai 08
Mae’r ddrama hon, sef comedi cymdeithasol mwyaf poblogaidd a miniog Oscar Wilde, yn enghraifft wych o gelfyddyd y dramodydd disglair. Bydd cynhyrchiad newydd a pherffaith Mappa Mundi yn caniatáu i gynulleidfa fodern gael eu syfrdanu gan y disgleirdeb hwnnw.

Mae Jack ac Algy mewn cariad â Gwendolen a Cecily, sydd ill dwy yn credu eu bod mewn cariad ag Ernest, nad yw’n bodoli mewn gwirionedd. Ychwanegwch fag llaw, nani anghofus a’r Foneddiges Bracknell arswydus at wallgofrwydd a chymesuredd y plot ac mae gennych y ffars ddychanol orau posibl. Mae ffraethineb disglair Wilde yn dryllio defod a moes pobl rodresgar a phobl o uchel dras.

Mae set, gwisgoedd, cerddoriaeth a goleuadau Mappa Mundi yn arddangos holl fecanwaith y theatr gyda pherffeithrwydd coeth. Gall cynulleidfaoedd edrych ymlaen at ddehongliad o ansawdd uchel ac unigryw o’r comedi disglair hwn, gan y cwmni drama blaenllaw hwn o Gymru.

“I hope you will enjoy my ‘trivial’ play. It is written by a butterfly for butterflies. [The play] has its philosophy… that we should treat all the trivial things seriously, and the serious things in life with sincere and studied triviality.” OSCAR WILDE