Stori ramantus y ‘Robin Hood Cymreig’ wedi ei chyflwyno’n fywiog gan Gwmni Theatr Arad Goch sy’n arbenigo mewn theatr i blant a phobl ifanc. Bydd hwn yn gynhyrchiad llawn campau, castau a cherddoriaeth wrth i stori anhygoel yr arwr gwerinol o Dregaron gael ei datgelu.
Bydd un o hoff artistiaid Canolfan Taliesin, Clare Teal, yn ymweld ag Abertawe fel rhan o daith i hyrwyddo ei halbwm newydd Get Happy. Yn ddiweddar gwnaeth sicrhau cytundeb gyda label Universal W14 Music, gan ddychwelyd i’w chariad cyntaf - jazz.
Unwaith eto bydd talentau chwe ysgol gynradd, myfyrwyr Coleg Gorseinon a’r coreograffydd Kirsten Collins yn cyfuno i lenwi’r llwyfan gyda rhaglen ryfeddol o ddawns.