ACW
WAG

Survival of the Fittest

Galeri Caernarfon

Doc Victoria
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SQ
01286 685252
Map
Amseroedd:
Pris:
Dyddiad: 08 Aws 08 - 20 Med 08
Survival of the Fittest
Arddangosfa o waith gan Manon Awst a Benjamin Walther

Mae’r artistiaid Cymreig-Almaenig Manon Awst a Benjamin Walther wedi eu cyfareddu gan brosesau gwaith sy’n dadlennu rhyw gymaint o’r anhrefn sylfaenol a natur annisgwyl bodolaeth ddynol. Mae eu gwaith cydweithrediadol yn cyfuno ansawdd ffurfiol gydag awyrgylch fytholegol neu swrrealaidd sydd bob amser yn creu tyndra rhwng ‘realaeth’ sefyllfa a’r hyn sydd tu hwnt.

Bydd Survival of the Fittest ar ffurf gosodiad safle penodol sy’n ymateb yn uniongyrchol i agosatrwydd Galeri Caernarfon i’r môr. Mae’r artistiaid wedi eu cyfareddu gan y môr fel ffynhonnell bywyd, ynghyd â’r effaith a gaiff ar ddynolryw fel bygythiad a gwrthwynebydd anrhagweladwy. O ganlyniad, bydd y gosodiad yn ymchwilio i’r bwlch rhwng dyn a natur drwy ddwyn grymoedd annweladwy ei amgylchfyd gerbron bod dynol bregus.