ACW
WAG

Witness for the Prosecution

Agatha Christie Theatre Company

Clwyd Theatr Cymru

Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, Gogledd Cymru, CH7 1YA

Swyddfa Docynnau:  0845 330 3565

Map
Amseroedd:

7.30pm
Sioeau prynhawn Iau a Sadwrn 2.30pm

Pris:

Swyddfa Docynnau: 0845 330 3565

£19.00, £16.00, £13.00

Gostyngiadau: £2.00 i ffwrdd o bris y 2 docyn drytaf (ac eithrio nos Sadwrn).

Ysgolion/Myfyrwyr (5 neu fwy) £9.00.

Dyddiad: 15-20 Maw 10

Yn arwain y cast hwn o sêr mae Honeysuckle Weeks (o Foyle’s War, a enillodd BAFTA), Denis Lill (seren y gyfres nodedig, The Royal), Ben Nealon (Soldier, Soldier) a Robert Duncan, a chwaraeodd ran Gus Hedges yn y gomedi a enillodd wobrau niferus, Drop the Dead Donkey. Mae Peter Byrne, Jennifer Wilson ac eilun ieuenctid y 60’au, Mark Wynter, yn cwblhau’r cast hwn o sêr.  

Canfyddir Emily French, gwraig mewn oed a adawodd ystad sylweddol yn ddiweddar i fachgen ifanc boneddigaidd o’r enw Leonard, wedi marw. Wedi’i llofruddio. Er ei fod yn dadlau ei fod yn ddieuog, Leonard yn fuan iawn sy’n cael ei amau fwyaf. Mae ei ble ddieuog yn dibynnu’n llwyr ar dystiolaeth ei wraig, nes ceir ymddangosiad sydyn gan ddynes ifanc, ddieithr, gyda chliw annisgwyl. Mewn byd lle mae pawb fel pe baent yn celu rhyw gyfrinach dywyll, bydd y ddrama bwerus hon sydd wedi’i lleoli mewn llys barn yn gwneud i chi ddyfalu tan yr eiliad angheuol olaf un.