The Automatic + Viva Machine and Wyrligigs
Galeri Caernarfon
Doc Victoria
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SQ
01286 685252
Amseroedd: 19:30
Pris: £9/11
Gig Sefyll i fyny ar gyfer rhai 14 +
Dyddiad:
11 Mai 08
Ai anghenfil sy’n dwad dros y bryn? Nage yr Automatic sydd yna!
Mae’r Automatic wedi datblygu cryn dipyn ers eu cychwyn diymhongar yn Y Bont-faen, De Cymru. Rhoddwyd hwb i amlygrwydd y band a’u cyflwyno i gynulleidfa newydd pan ryddhawyd eu trydedd sengl, y bythol Monster ym Mehefin 2006, a aeth i rif 4 yn siartiau sengl y DU. Yn fuan wedyn, rhyddhawyd eu halbwm gyntaf Not Accepted Anywhere sy’n amlygu arddull “electro-disgo-metel-roc” y band.
Ym Mehefin 2007, rhyddhawyd Not Accepted Anywhere yn America a Chanada yn fuan ar ôl ymddangosiad y band ar Vans Warped Tour. Sicrhaodd hyn fod ganddynt gryn dipyn o ddilynwyr Americanaidd.
Mae’r casgliad newydd ar hyn o bryd ar daith yn y DU gydag un ymddangosiad yn y Galeri – cyfle rhy dda i’w golli.