ACW
WAG

Macbeth

Clwyd Theatr Cymru

Yr Wyddgrug,

Sir y Fflint

Swyddfa Docynnau  0845 330 3565

Map
Amseroedd: Nosweithiau: 7.30pm Sioeau prynhawn Sadwrn: 2.30pm
Pris: £6-19
Dyddiad: 1-24 Mai 08
Macbeth
Act 1, Golygfa 1

Mellt a Tharanau. Daw Tair Gwrach i Mewn

Mae’r ddrama hon gan Shakespeare yn dechrau ac yn gorffen gyda rhyfel, gyda’r cynnwrf mewnol a brofa Macbeth yn ei fywyd yn cael ei adlewyrchu gan yr elfennau. Mae’n drasiedi am deulu a ddyrchefir yn chwedl gan rym dychymyg barddonol Shakespeare, yn epig o stori garu lle mae’r naturiol, yr annaturiol a’r goruwchnaturiol i gyd yn chwarae eu rhan.

Mae Owen Teale yn dychwelyd i Glwyd Theatr Cymru i chwarae rhan Macbeth. Enillodd Wobr Tony am A Doll’s House ar Broadway ac mae wedi serennu gyda’r RSC a’r National Theatre.

Chwaraeir rhan Lady Macbeth gan Vivien Parry, a chwaraeodd y brif ran yn Mamma Mia! yn y West End ac a gafodd ganmoliaeth eang gan feirniaid Efrog Newydd am ei pherfformiad yng nghynhyrchiad Clwyd Theatr Cymru o Memory.

Cast: Catrin Aaron, Simon Armstrong, John Atterbury, Nicholas Beveney, Bradley Freegard, James Ellis, Rupert Hands, Jenny Livsey, Simon Nehan, Robert J Page, Francois Pandolfo, Vivien Parry, Victoria Pugh, Joshua Richards, Oliver Ryan, Richard Shackley, Owen Teale.