Gyda rhai o’r caneuon mwyaf enwog ac ysbrydoledig a gyfansoddwyd erioed ar gyfer y llwyfan, gan gynnwys Don’t Cry For Me Argentina, On This Night of a Thousand Stars, Oh What A Circus, You Must Love Me ac Another Suitcase in Another Hall, mae sioe gerdd ysblennydd Tim Rice ac Andrew Lloyd Webber, EVITA yn dychwelyd mewn cynhyrchiad newydd ysblennydd gan Bill Kenwright a’r Really Useful Company.
Mae EVITA yn dod â hanes Eva Peron, gwraig anhygoel o boblogaidd cyn-unben yr Ariannin, Juan Peron, yn fyw ar y llwyfan – o’i dyheadau cynnar i’w chyfoeth a’i grym aruthrol cyn iddi farw ym mlodau ei dyddiau yn 33 mlwydd oed.