


Mae Shan yn berffrormwraig amryddawn sydd yr un mor gartrefol yn canu opera, oratorio a cherddoriaeth gyfoes ac ydi’n canu caneuon allan o sioe gerdd. Mae wedi bod yn canu yn broffesiynol ers 1995, y flwyddyn yr enillodd Cystadleuaeth y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae wedi perfformio rhan Carlotta yn Phantom of the Opera yn y West End yn Llundain a rhan Mary Roberts yn y miwsical newydd Amazing Grace gan Frank Vickery a Mal Pope gyda Wales Theate Company. Yn ogystal â hyn mae wedi dod i’r brig fel actores o’r radd flaenaf yn ei rhan fel Davina Roberts yng nhyfres Con Passionate ar S4C
Yn ymuno gyda Shân heno mae Côr Y Traeth, un o brif gorau meibion Cymru ac enillwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol a sawl cystadleuaeth tramor. Yn arwain mae Cyfarwyddwr y côr Annette Bryn Parri, fydd hefyd yn cyfeilio i Shan.