ACW
WAG

Noson Cofi Ciwba gyda Cubavida

Galeri Caernarfon

Doc Victoria
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SQ
01286 685252
Map
Amseroedd: 20:00
Pris:

£12

Dyddiad: 26 Gor 08
Daw Gwyl Caernarfon i uchafbwynt ar ddiwrnod Cenedlaethol Ciwba eleni! Noson o ddawns a cherddoriaeth America Ladin gyda grwp Cubavida, dan arweiniad Jesus Moreau Batallon, cerddor ddechreuodd ei yrfa lewyrchus fel myfyriwr yn Ysgol Gerddoriaeth Genedlaethol Ciwba yn Hafana yn llafn ifanc 14 oed, cyn mynd ymlaen i chwarae allweddell ac offerynnau taro mewn grwpiau dros y byd i gyd.

Cawn fwynhau arddulliau cerddorol gwledydd Puerto Rico, Colombia, Panama ynghyd â Ciwba ei hun. Ac i rheini ohonoch fynychodd gweithdy’r prynhawn cewch gyfle i roi tro ar ambell i symudiad newydd sbon!

Bydd tiwtoriaid y prynhawn yn bresennol i roi arweiniad yn ôl yr angen.