Gethin Thomas & Daniel Glyn
Canolfan Mileniwm Cymru
Plas Bute
Caerdydd
Amseroedd:
Pris: £10
Dyddiad:
27 Gor 08
Sioe Iaith Gymraeg
Dechreuodd Gethin Thomas ei yrfa stand yp yn 1991. Gwnaeth Daniel Glyn ei gig gynta wythnos yn ddiweddarach, ffaith nad yw Gethin erioed wedi gadael iddo anghofio.
Maen nhw hefyd wedi ysgrifennu dros 300 o sgriptiau comedi ar gyfer radio a theledu, gan gynnwys Radio Cwm Cwat, Y Rhaglen Wirion ’Na, Hotel Eddie a Dyna Bechod. Dyma gyfle i weld eu sioeau stand yp newydd sbon, wrth iddyn nhw gyrraedd diwedd eu taith cenedlaethol.