ACW
WAG

Dulyn 08, Dublin 08

Oriel Dafydd Hardy

Y Maes
Caernarfon
Gwynedd
LL55 2NF
Map
Amseroedd: Dydd Llun – Dydd Sadwrn 10yb – 4yp
Pris:
Dyddiad: 04 Gor 08 - 04 Aws 08
Dulyn 08, Dublin 08

Mae Oriel Dafydd Hardy’n falch o gyflwyno Dulyn 08, Dublin 08, Bail Atha Cliath 08, arddangosfa ar y cyd gan bum arlunydd ifanc Gwyddelig.

 Dewiswyd yr arlunwyr o sioe radd y Coleg Celf a Dylunio Cenedlaethol yn Nulyn, hwynt oll o’r Adran Baentio. O fewn y gr?p, fodd bynnag, defnyddir amrywiaeth eang o gyfryngau i archwilio gwahanol gysyniadau a phynciau. Dyma’r tro cyntaf i’r gr?p arddangos eu gwaith fel arlunwyr proffesiynol yn hytrach na myfyrwyr, ac mae’r cam rhwng arddangos mewn gofod addysgiadol i oriel gelf wedi bod yn ddiddorol.

Mae Molly Mishka’n gweithio gyda mewnosodiadau fideo, cerflunio a darlunio. Hunaniaeth sydd wrth wraidd ei gwaith. Trwy dynnu’r ‘ddefod’ yn ddarnau mae hi’n herio ystrydeb a ffiniau rhagarfaethol.

Dengys gwaith Sabina MacMahon y ffin gul sy’n pontio dau fyd gwrthgyferbyniol-yr-olwg, sef, ffaith a ffuglen. Mae hi’n cymryd mantais o’r awch sy’n gwneud i ni gredu bod ffotograffau’n cyflwyno rhyw fath o wirionedd gweledol, lle na cheir unrhywbeth sy’n annelwig.

Mewnosodiadau cerfluniol a fideo yw gwaith pennaf Fiona Reilly. Caiff y gweithiau cerfluniol eu creu o wrthrychau a gasglwyd dros gyfnod penodol o amser. Gweddillion gweithgareddau ei diwrnod ydynt.

Y syniad o realiti gaiff ei archwilio yng ngwaith Caroline Kennedy, a sut y caiff ei lunio gan freuddwydion personol, dyheadau a safbwyntiau. Yn ddiweddar, rwyf wedi defnyddio cartref fy hen fodryb yn Nonegal fel lle i astudio’r themâu hyn.

Archwilio graddfa ac ehangder y mae Ian O’Neill, o draddodiadau Rhamantaidd Aruchel, i ‘intimate immensity’ Bachelard, a byd cyfoes ffiseg ddamcaniaethol.