Varjak Paw
The Opera Group
Sherman Cymru
Ffordd Senghennydd
Caerdydd CF24 4YE
Amseroedd: 19:30
Pris: £12, £10 Dan 19: £8
Ages: 8+
Dyddiad:
28 Hyd 08
Cath Las ifanc o Fesopotamia yw Varjak Paw. Mae’n byw mewn ty fry ar ben yr allt. ‘Does yr un o’i deulu erioed wedi gosod un bawen y tu allan i’r ty; neb ers Jalal, un o’u hynafiaid chwedlonol.
Ond pan ddaw’r Bonheddwr sinistr a’i ddwy gath ddu i’r ty, mae’n rhaid i Varjak chwilio am help. Ar ei ben ei hun mewn dinas dywyll, beryglus, daw wyneb yn wyneb â byd o gathod sydd wedi eu magu ar y stryd, ac mae’n darganfod ei fod yn berchen ar grefft ymladd hudol a hynafol.
Mae Varjak Paw yn stori gerddorol gyffrous, llawn digwyddiadau a doniolwch, am dyfu i fyny, gwneud ffrindiau a meddwl drosto’ch eich hun.
Mae’r cynhyrchiad llwyfan hwn yn rhoi bywyd go iawn i lyfrau poblogaidd S F Said: Varjak Paw, ennillydd Gwobr Aur Smarties (2003), a The Outlaw Varjak Paw, Llyfr y Flwyddyn gan Blue Peter (2007).
“A wonderfully original creation” Evening Standard on The Outlaw Varjak Paw