ACW
WAG

Gadael ar ôl

Amgueddfa ac Oriel Celf Ceredigion

Ffordd y Môr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2AQ
Map
Amseroedd:
Pris:
Dyddiad: 15 Maw 08 - 10 Mai 08
Gadael ar ôl

Gan Tina Carr a Annemarie Schöne

Mae’r gyfres ffotograffig hon yn cynnwys astudiaeth agos o gartrefi, lleoedd a gwrthrychau sydd wedi’u gadael. Bu’r artistiaid yn byw yn y Gymru wledig yn y 25 mlynedd ddiwethaf a daw’r lluniau hyn o sawl lleoliad. Ni lwyfannir y golygfeydd byth ac nid ydynt yn ffug. Maent i gyd yn lleoliadau a adawyd gan eu cyn breswylwyr am ryw reswm: diffyg dichonoldeb economaidd, afiechyd, marwolaeth.

Mae eiddo annwyl y gorffennol wedi rhewi yn iasoer mewn rhyw oes a fu, yn disgwyl yn ofer i’w defnyddwyr ddychwelyd tra bo blynyddoedd o esgeulustod wedi gwneud eu hôl ar strwythur a deunydd yr adeiladau. Mae’r artistiaid yn dal lluniau o leoedd a fyddai fel arall heb eu gweld na’u darganfod. Drwy eu llygaid empathig, daw lleoliadau sydd wedi’u gadael ac sy’n destun dirywiad yn lluniau tawel yr olwg sy’n coffáu’r oes a fu.