


Yn yr arddangosfa hon, archwiliwn hanes gwaredu sbwriel ac ailgylchu yn ei wahanol ffurfiau. Yn ymestyn o ddefnyddio ymyl taflen o stampiau i lynu amlenni ail law i lapio sglodion mewn papur newydd, bu pobl synhwyrol yn ailgylchu erioed.
Tan y 1950au, roedd bron popeth yn cael ei ailgylchu a’i gompostio.
A oes unrhyw blant heddiw yn gwybod ystyr “clytio”?
Gwnai ein mamgu rygiau clwt o glytiau a daflwyd o’r neilltu a chwiltiau o’r gwlân a adawai defaid ar berthi.
Roedd ein tadcu yn sowndro tyllau mewn sosbenni ac yn morthwylio hoelion i sodlau eu hesgidiau.
Yn Affrica, mae pobl yn gwasgu hen boteli at ei gilydd i wneud mwclis prydferth ac maent yn troi hen fylbiau golau yn lampiau paraffîn.
Beth ydym ni’n ei wneud? Rydym yn rhoi pethau mewn bagiau gwahanol neu daflu pethau i sgipiau ailgylchu ac yn teimlo’n bod wedi gwneud ein rhan…Dewch i weld sut yr arferid gwneud hyn gyda medrusrwydd, cywreinwaith ac arloesedd.
Hefyd, bydd arddangosfa gan bobl ifanc am ailgylchu a bydd cyfle gan y Cyngor Sir i esbonio sut yr ailgylchir ein sbwriel heddiw.