Artes Mundi 3
Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
Amseroedd: 10-5
Mawrth - Sul
Pris: Am ddim
Dyddiad:
15 Maw 08 - 03 Meh 08
Mae Artes Mundi 3 yn cyflwyno gwaith diweddar gan naw artist sy’n holi pwy ydym ni a sut gymdeithasau rydyn ni’n byw ynddynt. O weithiau tecstil mawr a beintiadau i osodweithiau ffotograffiaeth a fideo trawiadol, mae’r arddangosfa hon yn archwilio gwahanol safbwyntiau ar gelfyddyd a bywyd.
Ymweld ag arddangosfa Artes Mundi 3
I’ch helpu i fwynhau eich ymweliad â’r arddangosfa mae gennym ddewis eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau i bawb.
Teithiau Tywys.
Ymunwch â theithiau tywys o amgylch yr arddangosfa yn rhad ac am ddim, am 2.30 bob prynhawn.
Sgyrsiau amser cinio.
Cyfres o sgyrsiau amser cinio ar 11 Ebrill, 25 Ebrill and 9 Mai 2008. Bydd artistiaid a churaduron yn trafod agweddau ar Artes Mundi a materion perthnasol i’r gweithiau sy’n cael eu harddangos. Bydd pob sgwrs yn dechrau am 1.05 y prynhawn. Mynediad am ddim. Dewch at ddesg wybodaeth yr Amgueddfa i sicrhau’ch lle.
Gweithgareddau celf i deuluoedd.
Gweithdai i’r teulu cyfan.
Bob penwythnos yn ystod yr arddangosfa a phob dydd o 21 Mawrth hyd 4 Ebrill a 26 - 30 Mai 2008.
Cyfle i weithio gydag artist i archwilio Arddangosfa Artes Mundi a chreu eich gwaith celf eich hun.
Hyd y gweithdy: 1 awr.
Dim angen trefnu ymlaen llaw.
Gweithdai Cymraeg ar gael bob prynhawn Sul am 3.00. Rhaid trefnu ymlaen llaw.
Mae Artes Mundi’n croesawu ymholiadau gan grwpiau anghenion addysg arbennig a grwpiau i rai rhannol ddall. Ffoniwch Adran Addysg Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 029 2057 3240 / 3278. Rhaid trefnu ymlaen llaw.