Danny the Champion of the World
Venue Cymru
Y Promenade
Llandudno
Gwynedd
Amseroedd: 6 19:00
7 10:3013:30
8 10:30 13:30
9 10:30 19:00
10 14:30 19:00
Pris: £9 (plant) - £12 (rheini)
Dyddiad:
6-10 Mai 08
Mae Danny yn byw mewn carafán gyda’i Dad, y Tad gorau a mwyaf cyffrous y cafodd unrhyw fachgen erioed. Ond mae gan ei dad gyfrinach! Pan mae’n nosi, mae’n potsio ffesantod o Goed Hazell. Mae Mr Hazell, y tirfeddiannwr mwyaf yn yr ardal, yn dymuno troi’r ddau allan ac mae’r frwydr yn dechrau i ddiogelu eu cartref. Ond sut mae un bachgen bach yn gallu trechu tirfeddiannwr cyfoethog a phwerus? Mae gan Danny gynllun - ac yn fuan, mae o a’i dad ar antur gyffrous a hynod!
Mae’r Birmingham Stage Company yn falch o gyflwyno llyfr mwyaf poblogaidd Roald Dahl. Mae’n dilyn y cynyrchiadau llwyddiannus o’r Jungle Book, Horrible Histories a chynhyrchiad hynod llwyddiannus y llynedd o Kensuke’s Kingdom. Os ydych yn chwilio am antur wych ar gyfer y teulu i gyd, ewch i weld Danny, the champion of the world!
Mae rhagflas o’r sioe yn www.birminghamstage.net