ACW
WAG

Snowdon Rocks 2

Galeri Caernarfon

Doc Victoria
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SQ
01286 685252
Map
Amseroedd: 19:30
Pris: £15
Dyddiad: 21 Meh 08
Snowdon Rocks 2

Unwaith eto, bydd Mike Peters, canwr y band roc a rôl Cymraeg The Alarm a enillodd glod rhyngwladol, yn arwain gorymdaith o feddygon a nyrsus, dilynwyr a chefnogwyr ar daith gerdded elusennol i gopa’r Wyddfa i godi arian a pherfformio Snowdon Rocks 2 – cyngerdd acwstig arbennig ar y copa ac i ddilyn ceir diweddglo acwstig yn Galeri yn y nos.

Bydd yr holl elw yn mynd yn uniongyrchol i Ganolfan Triniaethau Canser Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan. ac Uned Alaw yn Ysbyty Gwynedd, Bangor lle derbyniodd Mike Peters (sydd wedi trechu canser ddwy waith) driniaeth lwyddiannus am Lewcmia Lymffosytig Cronig (CLL) yn 2005/6.

Hyrwyddir Snowdon Rocks 2 gan Sefydliad LOVE HOPE STRENGTH, elusen a sefydlwyd gan Mike Peters i godi ymwybyddiaeth ac ariannu gofal canser yn lleol ac yn fyd-eang, gyda chyfres pellach o ddigwyddiadau byd-eang wedi eu trefnu ar gyfer 2008.
Llynedd, llwyddwyd i godi £43,000 yn yr achlysur ar yr Wyddfa.

Os ydych am ymuno â Mike Peters a chymryd rhan yn Snowdon Rocks ffoniwch 01745 571571 am ffurflen gofrestru unigol neu grwp, neu ewch i www.lovehopestrength.co.uk