ACW
WAG

How the Giraffe Got His Neck

Tall Stories

Theatr Mwldan

Aberteifi
Map
Amseroedd:
Pris: £6/5
Dyddiad: 18 Hyd 08
Tall Stories
Ai oherwydd fod ganddo draed drewllyd?

Ych chi erioed wedi meddwl sut cafodd y jiráff ei wddf hir, sut cafodd y llewpard ei smotiau neu sut cafodd yr eliffant ei drwnc? Cewch yr atebion yn y sioe newydd sbon hon gan Tall Stories, y cwmni a gyflwynodd The Gruffalo, The Snow Dragon a Monster Hits.

Mae gwyddonydd athrylith a chwedleuwr ecsentrig yn cyflwyno’u fersiynau ffantastig sydd bron yn hollol gyferbyniol o sut ddaeth rhai anifeiliaid rhyfeddol i fodolaeth – a sut ni ddaeth eraill i fodolaeth o gwbl (fel yr octopws pig hwyaden).

Mae straeon, dwli a jiráff dryslyd iawn yn cyfuno yn y sioe newydd wirion hon i bawb sy’n 4 oed ac yn hyn…