The Merry Wives of Windsor
Illyria
Theatr Mwldan
Aberteifi
Amseroedd: 19:30
Pris: £9/8
Dyddiad:
25 Gor 08
Perfformiad yn yr awyr agored (Canolfan Natur Cymru).
Yn ôl pob sôn roedd y Frenhines Elisabeth I mor hoff o gymeriad Falstaff, y marchog tew anniwair, fel y gofynnodd i Shakespeare ysgrifennu ddrama lle mae’n syrthio dros ei ben a‘i glustiau mewn cariad. Yn ddeiliad ffyddlon i’w Frenhines, gwnaeth Shakespeare yr hyn a ofynnwyd iddo– ond heb fodloni ar hyn, ysgrifennodd ddrama sy’n gweld Falstaff yn ymserchu nid unwaith, ond DWY WAITH – ar yr un pryd, gyda dwy wraig sy’n digwydd bod yn ffrindiau gorau.
Y canlyniad yw The Merry Wives Of Windsor gyda Falstaff yn anfon llythyrau caru o’r unfath i Mrs Page ac i Mrs Ford. Mae’r gwragedd yn sylweddoli mai bwriadau amheus sydd gan Falstaff, ac yn mynd ati i’w frawychu yn y dulliau mwyaf eithafol. Mae Mr Ford yn genfigennus ac yn dechrau amau ymddygiad ei wraig ac yn cymryd yn ganiataol bod ganddi gariad. Yn y cyfamser, mae Mr Page, wrthi’n brysur yn trefnu priodas ei ferch Anne i’r gwr o’i ddewis ef.
A fydd Anne Page yn cael priodi’r gwr o’i dewis hi? Pam fod yna ornest rhwng meddyg Ffrengig ac Offeiriad Cymreig? A pham ar y ddaear fod ‘na griw o Almaenwyr yn rhacsio’r holl ystafelloedd gwesty yn The Garter? Daw pob dim yn hollol amlwg – ond nid cyn i Falstaff gael ei drochi yn yr afon, mewn gwisg gwrach, ei guro gyda phastwn a’i roi ar dân.
Mae’r cwmni Illyria, sydd wedi ennill llu o wobrau rhyngwladol yn dychwelyd at ei wreiddiau - Shakespeare ar ei fwyaf bywiog a chwerthinllyd. Yn deilwng, mae gan y cwmni enw da heb ei ail am eglurder a gwreiddioldeb ei ddull comig Elisabethaidd. Difyrrwch o’r radd flaenaf, paratowch i chwerthin fel erioed o’r blaen!
GWYBODAETH ANGENRHEIDIOL
Mae Theatr Mwldan yn cyflwyno ei pherfformiadau awyr agored traddodiadol yng Nghanolfan Natur Cymru, Cilgerran mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Caiff y perfformiadau eu cyflwyno ar safle sydd â golygfeydd eang o Gorstiroedd Afon Teifi, yn gyferbyn ag adeilad y Ganolfan Natur sy’n cynnig prydau bwyd a lluniaeth yng Nghaffi’r Ty Gwydr, yn ogystal â siop anrhegion a thai bach.
Bydd nifer cyfyngedig o seddau ar gael ar gyfer y perfformiadau hyn – dewch â’ch seddau cefnau isel eich hun neu flanced a dillad cynnes. Bydd Caffi’r Ty Gwydr ar agor ar gyfer prydau bwyd cyn y sioe (bwciwch ar 01239 621600) neu dewch â phicnic i’w fwynhau! Bydd y Ganolfan Natur ar agor dwy awr a hanner cyn y perfformiad; cewch fynediad i safle’r perfformiad ar gyfer picnic awr cyn y sioe.
Bydd y perfformiadau yn parhau ymhob tywydd ond y gwaethaf. Ni ad-delir tocynnau. Bydd parcio am ddim ar gael yn y Ganolfan Natur. Mae mynediad cadair olwyn i’r safle perfformiad. Mwy o wybodaeth o Swyddfa Docynnau Theatr Mwldan.