ACW
WAG

Pinocchio

Illyria

Theatr Mwldan

Aberteifi
Map
Amseroedd: £9 (£8)
Tocyn Grwp £8 i bob person am 4 neu fwy o docynnau a brynwyd gyda’i gilydd
Pris: 16:00
Dyddiad: 17 Aws 08
OUTDOOR PERFORMANCES AT THE WELSH WILDLIFE CENTRE

Mae pawb yn meddwl eu bod yn gwybod stori Pinocchio ond anghofiwch am Disney! Mae cynhyrchiad Illyria wedi seilio’n gyfan gwbl ar gampwaith comig tywyll Carlo Collodi i oedolion a phlant dewr.

Mae Geppetto’r saer yn cerfio pyped o’r enw Pinocchio o ddarn o bren, ond mae’r Pinocchio cyfrwys yn cael pwl o dymer ac yn llwyddo i gael Geppetto wedi ei garcharu am greulondeb. Yn rhydd i wneud fel y mynno, mae Pinocchio yn ymuno â theatr, yn gwastraffu arian ei dad, yn cael ei erlid gan lofruddwyr a bron iawn ei grogi. Yn benderfynol o gael bywyd yn llawn antur, mae’n gadael Geppetto mewn tlodi, yn gadael i’r Tylwyth Teg Gwallt Glas i farw o alar, ac yn stampio ar y criciedyn sy’n ceisio cynnig cyngor da iddo. Yn y pendraw, mae’n cael ei hun yng Ngwlad y Teganau, lle mae plant drwg yn rhedeg yn wyllt – ond yn troi’n asynnod. Ar hyd ei oes, mae Pinocchio wedi ysu am fod yn fachgen go iawn, ond beth fydd yn rhaid iddo aberthu cyn iddo hefyd droi’n asyn?

Mae stori ryfeddol Collodi am wneud yn iawn hefyd yn watwar doniol ar aeddfedu – a bydd plant ac oedolion yn adnabod y realiti sy’n llechu tu ôl i ddarnau o’r ddrama. Gan gynnwys actor arweiniol sydd â thrwyn sydd wir y tyfu, a siarc 20 troedfedd, mae Pinocchio Illyria yn addas ar gyfer pawb sy’n 5 oed ac yn hyn.

GWYBODAETH ANGENRHEIDIOL

Mae Theatr Mwldan yn cyflwyno ei pherfformiadau awyr agored traddodiadol yng Nghanolfan Natur Cymru, Cilgerran mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Caiff y perfformiadau eu cyflwyno ar safle sydd â golygfeydd eang o Gorstiroedd Afon Teifi, yn gyferbyn ag adeilad y Ganolfan Natur sy’n cynnig prydau bwyd a lluniaeth yng Nghaffi’r Ty Gwydr, yn ogystal â siop anrhegion a thai bach.

Bydd nifer cyfyngedig o seddau ar gael ar gyfer y perfformiadau hyn – dewch â’ch seddau cefnau isel eich hun neu flanced a dillad cynnes. Bydd Caffi’r Ty Gwydr ar agor ar gyfer prydau bwyd cyn y sioe (bwciwch ar 01239 621600) neu dewch â phicnic i’w fwynhau! Bydd y Ganolfan Natur ar agor dwy awr a hanner cyn y perfformiad; cewch fynediad i safle’r perfformiad ar gyfer picnic awr cyn y sioe.

Bydd y perfformiadau yn parhau ymhob tywydd ond y gwaethaf. Ni ad-delir tocynnau. Bydd parcio am ddim ar gael yn y Ganolfan Natur. Mae mynediad cadair olwyn i’r safle perfformiad. Mwy o wybodaeth o Swyddfa Docynnau Theatr Mwldan.