ACW
WAG

Karen Matheson

Theatr Mwldan

Aberteifi
Map
Amseroedd: 19:30
Pris: £14/13
Dyddiad: 05 Med 08
Disgrifiodd Sean Connery Karen Matheson fel rhywun sy’n meddu ar "a throat surely touched by the hand of God" a chafodd ei disgrifio gan gylchgrawn Billboard fel "the finest Gaelic singer alive today…". Serch hyn dyma ond rhan o stori anhygoel y gantores ar flaen y sîn cerddoriaeth Geltaidd. Mae ei halbwm newydd Downriver wedi ei ysbrydoli’n bennaf gan y caneuon Gwyddelig a chafodd yn ystod ei magwraeth, ac sy’n bennaf yn gerddorol, gan adael gwagle i’r llais sydd wedi swyno cynulleidfaoedd ar draws y byd. Mae Karen wedi mwynhau gyrfa serol fel prif gantores y grwp enwog Celtaidd, Capercaillie, “the most exciting and vibrant band in the field of Celtic music today” (Billboard), gyda’r band yn gwerthu dros filiwn albwm ar draws y byd. Ym 1995, ysgrifennodd, recordiodd ac ymddangosodd Capercaillie yn y ffilm lwyddiannus Rob Roy, gyda Liam Neeson a Jessica Lange, gyda Karen yn perfformio unawd o alarnad Gaeleg ynddi.

Derbyniodd Karen OBE yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2006, cyflawniad rhyfeddol i ychwanegu at ei gwobr o “Gantores Gaeleg Orau” yng Ngwobrau Gwerin yr Albanaidd cyntaf. Fel perfformwraig unigol, bu’n ymwneud â phrosiectau cydweithio amrywiol gan gynnwys y gyfres BBC a enillodd gwobrau, sef Transatlantic Sessions, pan recordiodd traciau gyda Emmylou Harris, The McGarrigle Sisters, Nanci Griffith, Rufus Wainright a nifer eraill o gerddorion uchel eu parch.

“a gorgeous, understated gem” HMV Choice on Downriver

“A glorious capturing of a singer in her prime” Irish Times

“...remarkable in English but breathtaking when she draws on Hebridean roots to sing in Gaelic.” The Daily Telegraph

“Karen Matheson’s vocals are the coolest - swirling and slamming - amazingly dynamic.” NME

Karen’s website: www.karenmatheson.com