Wed ei henwebu ar gyfer dwy Wobr Gwerin BBC yn 2008 a daliwr albwm gwerin y flwyddyn Mojo 2007, mae Lisa Knapp wedi ffrwydro’i ffordd i amlygrwydd ar sîn gwerin bywiog, gyda’i albwm cyntaf Wild And Undaunted yn 2007.
Ych chi erioed wedi meddwl sut cafodd y jiráff ei wddf hir, sut cafodd y llewpard ei smotiau neu sut cafodd yr eliffant ei drwnc? Cewch yr atebion yn y sioe newydd sbon hon gan Tall Stories.
Mae Seimon yn ffotograffydd proffesiynol llwyddiannus sy’n gweithio ers pum mlynedd fel ffoto-ohebydd sy’n arbenigo yn y broses o ailgreu golygfeydd brwydrau ar gyfer cylchgrawn Americanaidd.
Amgueddfa ac Oriel Celf Ceredigion (18 Hyd 08 - 06 Rha 08)
Mae dros filiwn o bobl wedi crïo chwerthin wrth wylio comedi ffraeth Michael Frayn sydd wedi ennill gwobrau di-ri. Nawr, mae’n dychwelyd i Gaerdydd am y tro cyntaf ers 2003, mewn cynhyrchiad newydd gan y National Theatre.
Bydd cyfle i gynulleidfaoedd hen ac ifanc fwynhau sioe deuluol i’w chofio drwy dymor yr hydref eleni wrth i Theatr Bara Caws, ar y cyd gyda Theatr Gwynedd a Galeri, gyhoeddi’r newyddion cyffrous fod sioe gerdd o un o hoff lyfrau plant Cymru ar y gweill.
CAMPWAITH ROC A RÔL ANGOF SHAKESPEARE!
Daliwch yn dynn, mae’n bryd inni esgyn am y sêr wrth i gwmni theatr Orbit y brifddinas gyflwyno Return to the Forbidden Planet – enillydd gwobr Olivier am y sioe gerdd orau.