Mae dros filiwn o bobl wedi crïo chwerthin wrth wylio comedi ffraeth Michael Frayn sydd wedi ennill gwobrau di-ri. Nawr, mae’n dychwelyd i Gaerdydd am y tro cyntaf ers 2003, mewn cynhyrchiad newydd gan y National Theatre.
Bydd cyfle i gynulleidfaoedd hen ac ifanc fwynhau sioe deuluol i’w chofio drwy dymor yr hydref eleni wrth i Theatr Bara Caws, ar y cyd gyda Theatr Gwynedd a Galeri, gyhoeddi’r newyddion cyffrous fod sioe gerdd o un o hoff lyfrau plant Cymru ar y gweill.
Dewch gyda ni i ymweld â hen ffrindiau wrth i ni fynd am dro rhwng cloriau cyfeillgar‘Llyfr Mawr y Plant’.
Mae Siôn Blewyn Coch a’i deulu a Wil Cwac a’i ffrindiau i gyd yn disgwyl amdanoch chi yn y sioe gerdd fywiog yma.
Comedïwr sydd wedi ennill nifer o wobrau, capten un o dimau 8 Out of 10 Cats a seren Live at the Apollo a XFM, yn cychwyn ar ei daith genedlaethol gyntaf yn chwarae i gynulleidfaoedd byw.
Cath Las ifanc o Fesopotamia yw Varjak Paw. Mae’n byw mewn ty fry ar ben yr allt. ‘Does yr un o’i deulu erioed wedi gosod un bawen y tu allan i’r ty; neb ers Jalal, un o’u hynafiaid chwedlonol.
CAMPWAITH ROC A RÔL ANGOF SHAKESPEARE!
Daliwch yn dynn, mae’n bryd inni esgyn am y sêr wrth i gwmni theatr Orbit y brifddinas gyflwyno Return to the Forbidden Planet – enillydd gwobr Olivier am y sioe gerdd orau.
O’r diwedd, digwyddiad i ddathlu detholiad o’r gerddoriaeth mwyaf poblogaidd erioed! Mae A Night at the Opera, gyda Jonathan Ansell, gwesteion arbennig a Cherddorfa Night at the Opera.