


I ddathlu ei ddeng mlwyddiant ar hugain, mae Ffotogallery yn cyflwyno dwy arddangosfa
sy’n dathlu gweithiau comisiwn a wnaed yng Nghymru ac amdani yn ystod y tri degawd
diwethaf. Mae’r detholiad yn adlewyrchu llawer o ymatebion neilltuol ac eang eu cwmpas
i amrywiaeth o amgylchiadau yn ystod cyfnod o newid cymdeithasol ac economaidd
dramatig. Mae uchafbwyntiau o’r comisiynau grwˆ p, yn cynnwys The Valleys Project, A470
a Barrage, i’w gweld ochr yn ochr â gweithiau a wnaed fel rhan o brojectau un-person, yn
cynnwys Keith Arnatt, Catherine Yass a Bedwyr Williams.
Mae projectau o’r fath yn sôn am y dychymyg cenedlaethol, gwleidyddiaeth leol a byd-eang,
rhamantiaeth, teithio a thwristiaeth, nychdod diwydiannol, cyfarfyddiadau rhwng gwlad a
thref, y canol a’r ymylon. Mae nifer o’r comisiynau hyn, a’r gweithiau ffotograffig a ddeilliodd ohonynt, yn cynnig esboniadau amgen ar Gymru a chyflwr y diwylliant gweledol sy’n dal yn berthnasol heddiw. Mae gweithiau o’r arddangosfeydd hyn, a gasglwyd o archifau Ffotogallery a chasgliadau cenedlaethol a phreifat, yn cynnig cyfle unigryw i ailymweld â delweddiaeth a fu’n ddylanwadol o ran cynnig sylwebaeth ar y profiad o le, a sut y caiff ei ddarlunio.
Daw teitl rhan un, I Hate Green, o ddarn o graffiti yng nghyfres liw Peter Fraser ar gyfer The Valleys Project IV, a gomisiynwyd ym 1985. Fel teitl, mae’n codi pryderon ynghylch yr estheteg a’r wleidyddiaeth ddiwylliannol sy’n gysylltiedig â thraddodiadau tirlun, ymdeimlad o berthyn a gwahaniaeth, sentiment ac amwysedd, yn ogystal â thensiynau a dialogau
rhwng celfyddyd a dogfeniaeth.