


Awst 2il, 16eg a’r 30ain.
Pytiau_Oriel yw ein sesiynau Sadwrn galw-heibio i’r teulu, sy’n eich gwahodd i fwrw golwg fwy manwl ar
ein harddangosfeydd a gwneud eich gweithiau celf eich hunan. Bob pythefnos bydd y gweithdai yn archwilio
‘Beth sydd mewn Ffotograff?’ gyda gweithgaredd celf ymarferol i ddilyn hynny. Mae’r gweithdai ar gyfer rhai
5-15 oed (a’u gofalwyr), ac maent yn rhad ac am ddim! Does dim angen bwcio, dim ond dod i weld.