Daw Circus Oz yn ôl i Gaerdydd gyda’u sioe wefreiddiol, llawn dychan a hiwmor Awstralaidd, fydd yn cyffroi a chynnwys cynulleidfa o bob oedran.
Maen nhw’n wefreiddiol, yn haerllug, a dyma hoff berfformwyr syrcas y byd o Awstralia ac maent yn benderfynol o ddathlu pen-blwydd Circus Oz yn dri deg oed yn y ffordd orau bosib.
Gyda pherfformwyr o bob rhan o Awstralia, mae Circus Oz yn barod i danio’r llwyfan ac wedyn eich gwefreiddio chi gyda’u perfformiad llawn egni.
Ymhyfrydwch yng nghryfder, ystwythder, harddwch a hiwmor amharchus y perfformwyr hyn sy’n cael cydnabyddiaeth ryngwladol. Gan ddefnyddio cerddoriaeth fyw wreiddiol, dyma anrheg i’r teulu cyfan. Disgwyliwch yr annisgwyl wrth i Circus Oz barhau i dynnu ac ymestyn ffiniau syrcas cyfoes.