Mae’r Imperial Ice Stars yn dychwelyd i’r Ganolfan y Nadolig nesaf yn dilyn eu sioe boblogiadd Swan Lake on Ice yn 2006. Gan gyflwyno sêr y byd sglefrio cenedlaethol, Ewropeaidd a gweddill y byd, mae Cinderella on Ice wedi ei gosod i gefndir cerddoriaethglasurol ac yn sicr o’ch cyfareddu.
Mae Rannel yn cyfuno hip-hop a’u steil unigryw a chwareus eu hunain, gyda gwrthrychau bob dydd i greu perfformiad corfforol deinamig sy’n llawn egni a chomedi.
Yn gyfuniad gwych o ddawns a cherddoriaeth fyw, mae Subitango yn cyflwyno’r Tango ar ei orau. Yn cyflwyno 100 mlynedd o hanes a datblygiad Tango Argentino.