Janis Claxton Dance: Falling Light
Diversions
Canolfan Mileniwm Cymru
Plas Bute
Caerdydd
Amseroedd: 20:00
Pris: £10
Dyddiad: 15 Tac 08
Ymunwch â ni yn y Ty Dawns ar gyfer noson o ddawnsio a cherddoriaeth gyda Phedwarawd Caeredin yn perfformio gweithiau gan Bach a Gorecki. Noson yw hon a fydd yn cymell yr emosiynau ac yn cael ei diffinio gan y rhaglen gerddorol a fydd yn cynnwys Rinne, pedwarawd uchel ei glod Claxton wedi ei drefnu’n gyfansoddiad trydanol gan yr ensemble Awstralaidd Waratah a gwaith newydd wedi ei osod i Bedwarawd Llinynnol #3 Henryk Gorecki i’w berfformio yn fyw gan Bedwarawd Caeredin sydd wedi ennill canmoliaeth ryngwladol.
“Mae wedi cynnull ynghyd grwp o ddawnswyr disglair sy’n rhannu’r un ysgafnder a chysactrwydd sy’n gweddu i’w choreograffi, cyfuniad o’r trosgynnol a’r miniog … dawnsio huawdl di-gimig ar ei orau.” Cylchgrawn Venue