ACW
WAG

Alternative Routes 2008

Diversions

Canolfan Taliesin

Prifysgol Abertawe

Parc Singleton

Abertawe

Map
Amseroedd: 19:30
Pris: £9.50/7.50
Dyddiad: 19 Meh 08
Cyflwyna Diversions rai o’r dawnswyr newydd mwyaf talentog sy’n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd drwy Alternative Routes 2008. Bydd dawnswyr Diversions yn perfformio gwaith newydd gwreiddiol gan dri choreograffydd sy’n dod i’r amlwg, a grëwyd drwy ail dymor neilltuol Diversions.

Mae’r rhaglen driphlyg gymhellol hon yn cyflwyno cynyrchiadau gan Eleesha Drennan, Lee Johnston a Joanne Fong. Drwy weithio gyda dylunwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, arddangosir dychymyg a chreadigrwydd mewn tri chydweithrediad unigryw.

Mae Alternative Routes yn gyd-gynhyrchiad mawr rhwng Diversions, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, Canolfan y Celfyddydau Taliesin a Theatr Brycheiniog.