Cynhyrchiad newydd sbon o stori garu ffraeth Noël Coward. Dyma glasur o gomedi sy’n llawn cicio a brathu a dawn dweud ffraeth sy’n ddoniol a llesmeiriol yr un pryd.
Mae pawb am gael cyfle i lwyddo mewn swydd maen nhw’n ymfalchïo ynddi - yn cael eu gwerthfawrogi gan reolwyr, eu parchu gan gydweithwyr, â’u gwobrwyo â chyflog hael.
Mae cynhyrchiad arbennig Syr Peter Hall o An Ideal Husband gan Oscar Wilde yn dod i Gaerdydd, ar ôl ennill clod a bri ar lwyfannau’r West End a Broadway.
Enjoy – clasur o ddrama sydd prin yn cael ei pherfformio, gan awdur sy’n deall bywyd bob dydd i’r dim. Gyda phymtheg o gymeriadau brith sy’n datgelu pethau bob yn dipyn o flaen eich llygaid, dyma brofiad theatrig heb ei ail.
Mae dros filiwn o bobl wedi crïo chwerthin wrth wylio comedi ffraeth Michael Frayn sydd wedi ennill gwobrau di-ri. Nawr, mae’n dychwelyd i Gaerdydd am y tro cyntaf ers 2003, mewn cynhyrchiad newydd gan y National Theatre.